Newyddion: Llythyr gan y Dirprwy Weinidog i'r sector

Letter from the Deputy Minister to the sector

Personal letter received from Julie Morgan, Deputy Minister for Health & Social Care to thank the sector for your determination and dedication during the pandemic, and updating you on key developments on testing, vaccination, and funding. You can read the letter in full below:

 


Llywodraeth Cymru

Julie Morgan AS/MS Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol                                                                                                                                  

11 Chwefror 2021

 

At holl ddarparwyr gwasanaethau gofal dydd, gwarchod plant a chwarae yng Nghymru

Fis Awst diwethaf, ysgrifennais atoch i fynegi fy niolch diffuant am bopeth yr ydych wedi'i wneud ers dechrau'r pandemig, ac yn arbennig i'r rheini ohonoch a oedd wedi parhau, er gwaethaf popeth, i ddarparu gwasanaethau amhrisiadwy i blant gweithwyr hanfodol a theuluoedd sy'n agored i niwed.

Yn nhymor yr hydref cafwyd rhywfaint o normalrwydd eto, gyda llawer ohonoch yn gallu ailagor eich drysau i fwy o blant, gan gynnwys plant y Cynnig Gofal Plant o fis Medi 2020. Roedd yn galonogol gweld ein plant i gyd yn mynd yn ôl i’r ysgol a gofal plant lle roeddent yn gallu ffynnu a mwynhau cwmni eu cyfoedion. Fel Llywodraeth, rydym wedi parhau'n ymrwymedig i gadw plant yn yr ysgol a gofal plant, lle bynnag y bo modd, gan fod cynifer o fanteision i blant o fod mewn amgylcheddau mor gyfoethog ac ysgogol.

Wrth i ni nesáu at y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, roeddem yn wynebu mwy o heriau eto wrth nifer yr achosion o Covid-19 yn codi'n gyson eto yng Nghymru a straeniau newydd o'r feirws ddod i’r amlwg. Hoffwn ddiolch i chi i gyd am eich

ymdrechion y gaeaf hwn i sicrhau bod gan rieni yng Nghymru fynediad at ofal plant lle mae hyn yn bwysig neu'n hanfodol er mwyn iddynt allu gweithio. Rwyf dal o'r farn nad yw'n angenrheidiol ar hyn o bryd i gyfyngu ar fynediad i ofal plant a'i bod yn well i'r sector ac i rieni bod darparwyr yn aros ar agor, gan ddarparu gofal, cymorth, addysg gynnar a chyfleoedd chwarae cyfoethog i bob plentyn.

Yn fy natganiad ar 18 Ionawr, soniais am y pryderon gwirioneddol sydd gan lawer ohonoch a nodais yr holl fesurau rydym wedi gallu eu rhoi ar waith ers dechrau'r pandemig i gadw lleoliadau'n ddiogel i staff a phlant. Mae'n bwysig dros ben eich bod yn cymryd pob cam rhesymol i gymhwyso'r mesurau amddiffynnol a ddisgrifir yn ein canllawiau, o olchi dwylo'n rheolaidd a glanhau'r safle a'r cyfarpar i leihau cysylltiadau a sicrhau cymaint o awyr iach â phosibl. Byddwch hefyd am ddilyn ein canllawiau diweddaraf ar gynnal asesiadau risg y gweithlu ac asesiadau yn y gweithle.

Dylai cadw ein hunain ac eraill yn ddiogel fod yn brif flaenoriaeth i ni ac rwy'n hyderus y gallwn oroesi’r cyfnod hwn gyda’n gilydd os ydym i gyd yn cymryd y camau priodol.

Wrth i mi ysgrifennu hwn, mae'n ymddangos bod y llanw'n dechrau troi eto. Gyda chynnydd da yn cael ei wneud i frechu ein grwpiau blaenoriaeth a nifer yr achosion bellach yn gostwng yn gyson, mae rhesymau dros fod yn optimistaidd yma yng Nghymru. Fel gyda gweddill y DU, rydym yn gweithio i amserlen flaenoriaethu’r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) ar gyfer cyflwyno brechiadau. Gallaf gadarnhau, fodd bynnag, y bydd staff gofal plant (gan gynnwys Dechrau'n Deg) sy'n darparu gofal personol yn rheolaidd i'r rhai sy’n agored i niwed yn glinigol i Covid-19 yn cael blaenoriaeth ar gyfer brechiad fel rhan o grŵp blaenoriaeth 2. Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi'r wythnos hon i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ar sut y dylid diffinio a nodi staff o'r fath.

Rydym hefyd wedi cadarnhau y bydd pawb sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant a chwarae, boed hynny'n feithrinfa ddydd neu'n warchodwr plant, yn cael cynnig y cyfle i gymryd rhan mewn profion ddwywaith yr wythnos. Bydd gwneud prawf cyflym a hawdd ddwywaith yr wythnos yn galluogi'r sector i adeiladu ar y mesurau rheoli sydd eisoes ar waith drwy ein canllawiau Mesurau Diogelu i sicrhau bod y rhai sydd â Covid-19 ond nad oes ganddynt unrhyw symptomau yn cael eu nodi ac yn hunanynysu. Bydd hyn yn helpu i leihau'r risg o drosglwyddo, nid yn unig mewn lleoliadau ond yn y gymuned ehangach.

Bydd mwy o fanylion yn dilyn ar sut y gallwch gael y pecynnau prawf a'r trefniadau logistaidd cysylltiedig. Ar hyn o bryd, ni ellir cludo’r profion i gartref unigolyn ond rydym yn gweithio gyda phartneriaid i benderfynu ar y trefniadau hyn. Rydym wedi llunio rhestr o gwestiynau cyffredin i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Bydd mwy o gyngor a chyfarwyddyd ar y cynnig profi ar gael maes o law.

Rydych chi, ein darparwyr gofal plant, yn ased amhrisiadwy yma yng Nghymru ac rwy’n awyddus iawn o hyd i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i'ch cefnogi drwy'r cyfnod ansicr a heriol hwn. Yn ddiweddar, rydym wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol i gadarnhau y gallant barhau â thaliadau’r Cynnig Gofal Plant mewn nifer o senarios lle mae Covid-19 yn effeithio ar eich gallu i gynnig gwasanaethau arferol. Rydym hefyd wedi sicrhau bod £5.3 miliwn ychwanegol ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol hon i awdurdodau lleol drwy'r Grant Plant a Chymunedau i'w galluogi i gynnig cymorth ariannol i ddarparwyr sy'n wynebu

rhwystrau neu gostau ychwanegol o ganlyniad i'r feirws neu sy'n gweld gostyngiad yn y galw am leoedd. Byddwn yn eich annog i siarad â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol neu eich cyswllt gofal plant yn yr awdurdod lleol i archwilio’r opsiynau sydd ar gael i chi. Bydd eich sefydliad ymbarél hefyd yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad i chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am y cymorth sydd ar gael.

Efallai eich bod hefyd wedi gweld ein cyhoeddiad ar 1 Chwefror y byddwn yn sicrhau bod arian ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol. Bydd hyn yn eu galluogi i gynyddu'r cyllid i'r sector nas cynhelir ar gyfer addysg gynnar (Darpariaeth Feithrin y Cyfnod Sylfaen) fel bod hynny’n gyson â chyfradd gyllido bresennol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant (£4.50) yn y Cynnig Gofal Plant. Mae'r penderfyniad hwn yn arbennig o bwysig ar ôl blwyddyn anodd yn 2020 lle mae'r sector wedi bod yn gwbl hanfodol yn ein brwydr yn erbyn y pandemig ac wrth gefnogi ein plant a'n gweithwyr hanfodol. Mae'r penderfyniad hwn hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gynnal darpariaeth gofal ac addysg o ansawdd uchel drwy barhau i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant a chefnogi rhieni. Gallwch ddarllen y datganiad llawn yma. Rwy'n gwybod y byddwch hefyd yn awyddus i ddysgu mwy am ein cynnydd o ran adolygu'r gyfradd fesul awr ar gyfer elfen gofal plant y Cynnig. Nid ydym wedi gallu symud mor gyflym ag y byddem wedi hoffi ar hyn o ganlyniad i bopeth arall yr ydym wedi bod yn ei wneud yn y flwyddyn ddiwethaf i gefnogi'r sector mewn ffyrdd eraill. Fodd bynnag, rwy’n obeithiol y byddwn yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hyn yn y misoedd nesaf.

Mae'n bwysig i ni glywed eich barn am y materion sy'n peri pryder i chi. Rydym wedi clywed gan lawer ohonoch dros y misoedd diwethaf ac rydym yn cael adborth rheolaidd ar y materion sy'n effeithio ar bob un ohonoch drwy ein partneriaid yn yr awdurdodau lleol, y cyrff ymbarél sy'n rhan o gonsortiwm "Cwlwm" a thrwy Arolygiaeth Gofal Cymru. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r rhai ohonoch a ymatebodd i'n Harolwg Darparwyr yn yr haf. Rydym bellach wedi cyhoeddi ail gam yr arolwg hwn ac edrychwn ymlaen at glywed mwy am yr effaith arnoch chi a’ch busnesau neu sut rydych wedi newid eich ffordd o weithio mewn ymateb i'r pandemig. Mae'r wybodaeth hon yn werthfawr i ni wrth lunio ein polisïau a cheisio sicrhau bod ein hymyriadau mor effeithiol â phosibl. Rwy’n annog cymaint ohonoch â phosibl i ymateb i'r cylch nesaf hwn o'r Arolwg Darparwyr. Byddaf yn dal ati i wrando arnoch a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yma yn Llywodraeth Cymru.

Bydd llawer o'r teuluoedd rydych yn eu cefnogi yn gweithio mewn galwedigaethau sy'n cadw'r wlad hon i fynd, boed yn weithwyr iechyd neu ofal cymdeithasol neu'n fanwerthwyr bwyd. Rwy'n gwybod y gellir teimlo nad yw eich cyfraniad fel darparwyr gofal plant yn aml yn cael ei gydnabod ac nad ydych yn cael diolch amdano, ond gallaf eich sicrhau nad yw hynny’n wir. Dyma pam yr oeddwn am ysgrifennu atoch yn bersonol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau allweddol, ond yn bennaf oll i ddweud "diolch". Rwy’n hynod ddiolchgar am eich ymroddiad diflino a’ch dyfalbarhad. Diolch i chi gyd.

 

cid:image002.jpg@01D66F2D.27DFFB10

Julie Morgan AS/MS
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol