Amdano

Mae PACEY Cymru yma i gefnogi pobl sy’n gweithio gyda phlant ac yn gofalu am blant yng Nghymru.  Mae PACEY Cymru yn cefnogi'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal plant a blynyddoedd cynnar i ddarparu gofal a dysgu cynnar o ansawdd uchel i blant a theuluoedd.

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Estyn, awdurdodau lleol ac asiantaethau i sicrhau bod gan deuluoedd ledled Cymru fynediad at ofal plant fforddiadwy ac o safon.

Darganfod mwy

Ansawdd

Dylai pob lleoliad blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae adolygu ansawdd eu darpariaeth yn barhaus. Mae myfyrio ar ddarpariaeth ac arfer yn sbardun ar gyfer gwelliant parhaus. Gall cynllun sicrhau ansawdd neu offeryn gwella ansawdd eich helpu i hunanwerthuso eich gwasanaeth a chynllunio ar gyfer gwelliant.

Gall hyn ddarparu tystiolaeth i rheoleiddwyr (er enghraifft AGC ac Estyn), rhieni a chyllidwyr eich bod chi’n;
 

  • anelu y tu hwnt i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol sy'n ofynnol ar gyfer cofrestriad AGC

  • anelu at ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i'r plant yn eich gofal a'u teuluoedd

  • darparu cyfleoedd chwarae, dysgu a datblygu o safon i blant

  • gallu nodi eich anghenion datblygiad proffesiynol ac anghenion aelodau staff

I wybod mwy am sut mae PACEY Cymru yn cefnogi arfer a gwelliant o safon, anfonwch e-bost at [email protected]

Hyfforddiant yng Nghymru

PACEY's training is designed to help you meet the requirements of your registration and to give you the skills and experience you need to provide high-quality professional childcare.  It is also important to be aware of the role of Social Care Wales in supporting development of the childcare and early years workforce in Wales to ensure they have the best knowledge and skills.

Swyddi Gwag

Mae ein swyddi gwag darparwyr yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, cliciwch ar y ddolen isod i weld y swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd.