Hyfforddiant a DPP

Mae Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) o ansawdd uchel ar gyfer y gweithlu Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Gwaith Chwarae yn hanfodol wrth helpu i sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru ddyfodol disglair.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynllun gweithlu 10 mlynedd sy'n ymdrin â materion fel isafswm lefelau cymwysterau, arweinyddiaeth graddedigion, DPP a llwybrau gyrfa, a bydd cynllun gweithredu yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

Mae partneriaid Cwlwm yn darparu cyfleoedd a gwybodaeth i chi a'ch cydweithwyr gael mynediad at gymwysterau, gweithdai a chyrsiau ynghyd â digwyddiadau rhwydweithio a fydd yn eich helpu i adeiladu ar eich gwybodaeth a'i diweddaru.

Mae dwy ddogfen allweddol y gallwch eu defnyddio wrth recriwtio neu ddewis cymwysterau i'ch staff.

1. Mae Rhestr o Gymwysterau Gofynnol Gofal Cymdeithasol Cymru i weithio yn y sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru yn darparu arweiniad ar gyfer cyflogwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant, ymarferwyr, darparwyr dysgu, a sefydliadau eraill ynghylch y cymwysterau galwedigaethol gofynnol ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

2. Os ydych chi'n cyflogi neu'n gweithio fel Gweithiwr Chwarae, dylech ddefnyddio Rhestr o Gymwysterau Gofynnol i weithio yn y Sector Gwaith Chwarae yng Nghymru (Gwaith Chwarae) gan SkillsActive

3 Llifsiart Cymwysterau Gwaith Chwarae

Cymerwch gip ar tudalennau ein partneri lle gallwch ddarganfod mwy am hyfforddiant a chyfleoedd DPP sy'n cael eu cynnig gan bob sefydliad.