Amdano

Cenhadaeth NDNA yw arwain a grymuso’r sector er mwyn i feithrinfeydd a’r gweithlu Blynyddoedd Cynnar gallu darparu gofal ac addysg cynaliadwy o safon uchel.

Sicrwydd ansawdd


Dylai pob lleoliad Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant a Chwarae adolygu ansawdd eu darpariaeth yn barhaus. Mae myfyrio ar ddarpariaeth ac ymarfer yn sbardun ar gyfer gwelliant parhaus. Bydd cymryd rhan ar un o gynlluniau sicrhau ansawdd partner Cwlwm yn eich helpu i hunanwerthuso'ch gwasanaeth a chynllunio ar gyfer gwella.

Bydd marc ansawdd yn dangos i rieni a chyllidwyr eich bod yn anelu y tu hwnt i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru CIW a'ch bod yn anelu at ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel lle gall rhieni a theuluoedd deimlo'n hyderus yn y cyfleoedd dysgu a chwarae a gynigir

- yw-Quality Counts a Quality Improvement Programmes


Mae NDNA yn cynnig dwy ffordd o wella ansawdd meithrinfeydd i’w galluogi i ymdrechu i ragori yn eu harferion: cynllun achredu cynhwysfawr a llawn er gwella ansawdd yw -Quality Counts, ac mae’r rhaglenni Quality Improvement Programmes unigol ar gyfer lleoliadau sydd am wella ansawdd mewn meysydd blaenoriaeth.

Beth yw e-Quality Counts?

Cynllun gwella ansawdd ar-lein NDNA yw Quality Counts, un a luniwyd yn arbennig ar gyfer meithrinfeydd. Mae e-Quality Counts yn rhoi cymorth i feithrinfeydd adolygu pob agwedd ar eu gofal, addysg gynnar a busnes er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi’r gofal gorau posibl i blant a’u teuluoedd, o’u gwaith gyda babanod i ofal all-ysgol. Mae e-Quality Counts yn gynllun trylwyr er gwella ansawdd, ac yn broses asesu sy’n cynnwys yr holl dîm staff. Y mae wedi ei gymeradwyo â nod ardystiad y Swyddfa Eiddo Deallusol fel proses asesu a dilysu cadarn, ac y mae hefyd wedi ei ardystio gan CPD UK.

Unwaith y bydd meithrinfeydd wedi cwblhau pob rhan o’r cynllun drwy gymorth asesiad ar lein, mae’r feithrinfa’n cyflwyno eu portffolio er achredu i’w fesur yn erbyn Safonau e-Quality Counts, a bydd asesydd annibynnol yn ymweld â’r safle i arsylwi ar arferion ym mhob rhan o’r feithrinfa. Mae meithrinfeydd sy’n ennill achrediad e-Quality Counts yn dangos ymrwymiad parhaus i ofal rhagorol ac addysg gynnar sydd yn mynd y tu hwnt i’r safonau sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr. Mae achrediad e-Quality Counts yn ddilys am dair blynedd. Wedi hynny bydd angen ail-achredu meithrinfeydd.

Rhaglenni gwella ansawdd

Mae rhaglenni gwella ansawdd NDNA wedi eu targedu, ac yn hydrin er mwyn helpu meithrinfeydd i gymryd camau bychain i wella ansawdd arferion yn eich meithrinfa a chynaliadwyedd eich busnes. Mae’r rhaglenni’n helpu meithrinfeydd i adlewyrchu ar eu harferion, a’u datblygu, yn ôl set o safonau ansawdd drwy hyfforddi ar lein a chysylltiadau â’r adnoddau. Mae hyn yn gymorth i feithrinfeydd adeiladu portffolio o dystiolaeth, polisïau a gweithdrefnau i gefnogi’r daith ansawdd. Y mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau bod ein Rhaglenni Gwella Ansawdd yn cydymffurfio â’r hyn y mae’n ei ddisgwyl gan gynllun sicrwydd ansawdd.

Bydd y rhaglenni’n eich galluogi i redeg busnes hapus a chynaliadwy drwy ddatblygu gwaith tîm, moral y staff a chanlyniadau’r plant.

Am fwy o wybodaeth am raglen Achredu Ansawdd yr uchod ewch at: https://www.qualitycounts.org.uk/

Teitl y cyrsiau

Disgrifiad cyswllt, consectetur adipiscing elit. Mauris quis accumsan mi. Fusce leo libero, feiciat consectetur feiciatic in, rutrum id erat.

Swyddi Gwag

Mae ein swyddi gwag darparwyr yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, cliciwch ar y ddolen isod i weld y swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd.