Newyddion: Arolwg Blynyddoedd Cynnar I Adroddiad Arad

Early Years Survey Report

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau arolwg gwaith chwarae a gofal plant ar lein a gynhaliwyd rhwng Rhagfyr 2021 ac Ionawr 2022. Comisiynodd Blynyddoedd Cynnar Cymru Ymchwil Arad i gynnal ac i adrodd yn ôl ar holiadur yr arolwg ar ei ran. Casglodd yr arolwg wybodaeth oddi wrth leoliadau gofal plant a gwaith chwarae ar nifer y staff, recriwtio, swyddi gwag a chyflog er mwyn helpu Blynyddoedd Cynnar Cymru a’i bartneriaid yn sefydliad Cwlwm, i ddeall a chefnogi’r sector yn well.

Cafodd cwestiynau’r arolwg eu drafftio gan Flynyddoedd Cynnar Cymru ac Ymchwil Arad, gyda mewnbwn oddi wrth bartneriaid Cwlwm. Derbyniwyd 362 o arolygon wedi’u cwblhau gan ymatebwyr

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma: https://www.cwlwm.org.uk/cy/our-work/reports


Ymateb Cwlwm:

Mewn ymateb, mae Cwlwm wedi adolygu’r data ac mae’r sylwadau isod yn amlinellu ein safbwynt a’n dyheadau i ddal i gefnogi’r sector.

Rydyn ni’n cydnabod mai’r teimlad unfrydol, bron, yn y sector ar hyn o bryd yw fod cyflogau'n isel a'i bod yn anodd cadw staff, am amrywiaeth o resymau. Mae’r testun isod yn dilyn yr adroddiad fesul adran gyda’r pennawd, ‘Dywedoch chi...’ yn ddatganiad sy’n cyfeirio at sylwadau gan y sector yn yr arolwg. Dilynir hyn gan grynodeb o feddyliau Cwlwm, ac ymateb gweithredu byr i gyd-fynd â phob maes.

Staff

Nid yw’r canfyddiadau hyn yn annisgwyl, o gofio am ddealltwriaeth Cwlwm o ddeinameg y sector ac o'r pryderon sy'n cael eu rhannu ynghylch y cyflogau isel sydd mor amlwg yn y sector. Roedd 53% o ymatebwyr i’r arolwg yn cynnig contractau amser tymor, rhai yn cynnig contractau amser gwyliau a tua 33% yn cynnig contractau gydol y flwyddyn. Roedd 59% o ymatebwyr yn adrodd fod staff yn gweithio mewn dwy swydd. O’r 59% hwn, roedd 75% yn gweithio mewn dwy (neu fwy) o swydd gofal plant a chysylltiedig a 53% yn gweithio mewn sectorau eraill.

Mewn sector sy'n adrodd cyflogau isel, mae'n amlwg y gallai rhai staff gyda dwy swydd fod yn gweithio yn y ddwy swydd o reidrwydd ac nid o ddewis. Hoffai Cwlwm weld symudiad tuag at weithlu proffesiynol yn cael ei wobrwyo'n dda. Gellir dehongli rolau deuol mewn gwahanol ffyrdd. Gallai dehongliad cadarnhaol fod yn cefnogi mwy o hyblygrwydd mewn gwaith megis ffitio i mewn gwaith cyn ac ar ôl diwrnodau ysgol, ychwanegu dimensiynau gwahanol i rolau ar gyfer staff, a darparu cyflogaeth gymysg sy'n cwmpasu cyfleoedd cyflogaeth yn ystod y tymor ysgol ac yn ystod y gwyliau. Gallai goblygiadau treth mwy cymhleth fod yn negyddol, blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd, effeithiau posibl ar gydbwysedd bywyd a gwaith fel oriau gwaith hirach, a chynnydd mewn canfyddiadau cysylltiedig â straen tuag at waith gan gynnwys risgiau pryderon iechyd meddwl neu ddyheadau i gael un pwynt cyflogaeth yn arwain i faterion cadw.

Bydd Cwlwm yn dal i gyflwyno'r achos fod gofal plant yn sylfaen bwysig i deuluoedd ac i’r economi yng Nghymru; cael ei chydnabod fel rôl gweithiwr hanfodol er mwyn i blant a Chymru ffynnu. Bydd Cwlwm yn eiriol dros fuddsoddiad a chyllid i gynyddu cyflogau ar draws y sector ac i ymestyn mynediad i ddarpariaeth ar draws Cymru. Rydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol i rannu canfyddiadau ynghylch cyflogau ac amodau gwaith yn y sector, gan rannu eich sylwadau gyda swyddogion.

Ymateb gontractau

Mae Cwlwm yn falch o nodi nad yw’r pwysau presennol yn ymddangos ei fod wedi cynyddu yn arwain at staff yn cael cynnig contractau dim oriau. Gan fod gofal plant a gwaith chwarae yn rhan mor sylfaenol o bolisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ymestyn ariannu gofal plant a chynyddu cyfleoedd yn y Gymraeg, rydyn ni'n falch fod y sector yn cyflogi staff trwy ddefnyddio trefniadau contract.

Mae Cwlwm wedi ymrwymo i gefnogi Llywodraeth Cymru i godi statws a’r canfyddiad o werth yn y sector. Rydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid megis Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofalwn Cymru i hyrwyddo a gwerthfawrogi'r gweithlu yng Nghymru. Rydyn ni’n eiriol dros ofal plant o ansawdd o 0-2 yn yr amrywiaeth o ddarpariaeth sydd ar gael ac yn darparu gwasanaethau proffesiynol i’n haelodau i sicrhau ansawdd, gan gynnwys recriwtio ac ymarferion cyflogaeth.

Recruitment

Roedd yn rhaid i 54% o ddarparwyr gael staff newydd yn 2021 oherwydd bod staff yn gadael; roedd 60% wedi recriwtio yn ystod y 12 mis diwethaf a 12% arall wedi ceisio recriwtio, ond yn aflwyddiannus. O’r rhai oedd yn recriwtio, roedd 77% yn canfod recriwtio’n heriol oherwydd; ymgeiswyr gyda chymwysterau addas (78%), cyflog yn rhy isel (54%), oriau anaddas (47%), cystadleuaeth o'r tu allan i'r sector (26%), sgiliau'r Gymraeg (24%). Mae hefyd yn bwysig nodi, oherwydd fod llai o ddarparwyr trwy gyfrwng y Gymraeg yn gyffredinol, fod y % hwn yn tangynrychioli’r heri o recriwtio staff cymwys sy’n siarad Cymraeg.

Mae Cwlwm wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i drafod yr amrywiaeth o ddewisiadau a’r cyfleoedd sydd yna i helpu'r sector i recriwtio staff. Yn unigol, mae sefydliadau Cwlwm wedi darparu hyfforddiant a chefnogaeth i aelodau ynghylch recriwtio a byddwn yn dal i gynnig hynny i leoliadau aelodau. Roedd 2021 a 2022 yn flynyddoedd lle bu newid arwyddocaol mewn amgylchiadau cyflogi. Ond, rydym yn nodi mai'r prif resymau a adroddir dros fod angen recriwtio yw, cyflogau gwell y tu allan i’r sector (42%), oriau gwell (37%) a gofynion y swydd (21%). Mae Cwlwm yn cydnabod efallai nad yw bod yn atebol am blant yn gyfrifoldeb yr ystyrir sy’n rhan o swyddi sy’n talu’n debyg. Mae hefyd yn werth nodi y gallai mesurau amddiffyn llymach a newidiadau mewn polisi oherwydd Covid fod wedi ychwanegu at y llwyth gwaith yn y cyfnod hwn.

Byddwn yn dal i weithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn ar y broses gofrestru, a chyda Llywodraeth Cymru ar bolisi gofal plant, gwaith chwarae ac addysg gynnar.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu caffael darn annibynnol o ymchwil i ddatblygu dealltwriaeth o’r rhesymau dros y gostyngiad graddol yn niferoedd gwarchodwyr plant yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf ac i nodi pa rwystrau neu faterion a allai fod yn cyfrannu at y dirywiad graddol hwn neu’n atal pobl rhag ymuno â’r cynllun. proffesiwn. Bydd y darn hwn o waith yn cynnwys sgyrsiau gyda gwarchodwyr plant, awdurdodau lleol, teuluoedd a phlant, Arolygiaeth Gofal Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys Cwlwm, i gael darlun mor glir a chywir â phosibl o’r sefyllfa. Bydd y gwaith ymchwil yn arwain at adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yn yr hydref/gaeaf 2022, gyda chanfyddiadau a syniadau i lywio gwaith yn y dyfodol.

Pay

Mae Cwlwm wedi ymrwymo i gefnogi'r dyhead am sector gofal plant a gwaith chwarae proffesiynol sydd â statws uchel yng Nghymru. Mae'r datganiadau ansoddol yn dangos bod canfyddiad. Rydym ni wedi rhannu eich sylwadau gyda Llywodraeth Cymru a gyda rhanddeiliaid eraill yng Nghymru. Y neges unfrydol, bron, yw nad yw'r cydbwysedd rhwng ariannu, faint mae rhieni'n fodlon ei dalu am ofal plant a'r incwm sydd ei angen i godi cyflogau yn y sector, yn ffafriol i godi cyflogau ar hyn o bryd. Rhannodd y sector eu bod yn talu’r hyn y gallant ei fforddio ond nid yr hyn y maent yn ei weld sydd werth y rolau, ac mae’r tâl yn aml yn cyfateb i leiafswm statudol. Ar gyfer gwarchodwyr plant yn benodol, mae atebion yr arolwg yn awgrymu bod tâl yn cael ei dynnu o warged ar ôl costau ac yn aml nid yw'n darparu digon i fuddsoddi mewn cronfeydd wrth gefn. Mae tua dwy ran o dair yn awgrymu y byddai ganddynt lai na 6 mis o arian cynnal ac nid oes gan draean fawr ddim arian ar gyfer cynaliadwyedd.

Rydym wedi rhannu eich barn â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru. Mae Cwlwm yn eiriol dros y sector ac yn gobeithio gweld sector gofal plant a gwaith chwarae sy’n cael ei werthfawrogi o ran y canfyddiad o'r rhan y mae staff yn ei chwarae mewn cefnogi datblygiad plant ac mewn dangos gofal plant a gwaith chwarae yn ddewis gyrfa sy'n gwobrwyo'n dda. Rydym ni'n ymwybodol o'r cyfleoedd a'r cyfyngiadau sydd yng Nghymru, ond yn nodi fod gwledydd eraill wedi gwneud eu sectorau gofal plant a gwaith chwarae yn gyfleoedd gyrfa bywiog a deniadolii.

Rydym ni’n nodi’r cynnydd diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ynghylch ariannu a’r cyfleoedd ar gyfer y sector yn y dyfodol a byddwn ni’n chwarae rhan allweddol mewn cefnogi’r datblygiadau hyn tra’n rhannu syniadau sefydliadau ein haelodau gyda gyrwyr allweddol ym maes polisi. Mae’n bwysig cofio mor agos yw'r cyfraddau cyflog at yr isafswm cyflog statudol a nodi hefyd fod yr ystod ar lefel arolygu'n eang (£9.95 - £17/awr).

O gofio cyfrifoldebau a chymhlethdod y swyddi hyn, gellir dadlau nad yw £8.85 yn unol â gofynion y swyddi ac y gallai dadansoddiad pellach o gyflogau fod yn ddefnyddiol.


Yn amlwg, mae cyfuniad o gyflogau isel, recriwtio a chadw yn heriau i’r sector. Dydyn ni ddim yn cael ein synnu gan y canfyddiadau ac yn gobeithio cael sector gofal plant a gwaith chwarae a fydd yn apelio at fyfyrwyr ac unigolion â'u bryd ar yrfa ac sydd â'r sgiliau a'r nodweddion i helpu plant i chwarae, dysgu a datblygu.

Rydyn ni’n cynnig adroddiad Arad a’r papur hwn i randdeiliaid i’w helpu i ddod at ei gilydd ac adolygu beth mae’r sector wedi’i rannu gyda ni yn yr arolwg ymchwil hwn, gan nodi atebion lle mae’n bosibl i wella gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru ac i gefnogi cyfleoedd i blant, teuluoedd a chymunedau.

Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin
Jane O’Toole, Prif Weithredwr, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
David Goodger, Prif Weithredwr, Blynyddoedd Cynnar Cymru/Early Years Wales
Claire Protheroe, Prif Swyddog, Pacey Cymru
Sarah Coates, Prif Swyddog, NDNA Cymru

Logo table


i OECD Report: Early Learning and Child Wellbeing in Estonia (Ch. 2) https://www.oecd-ilibrary.org/sites/15009dbe-en/1/2/2/index.html?itemId=/content/publication/15009dbe-en&_csp_=8512ae85d91acc65dc8eca791cece859&itemIGO=oecd&itemContentType=book