Blog: Dysgu yn Gymraeg

Learning in Welsh

I mi, mae Cymraeg yn bersonol, dyna pwy ydw i; mae fy nghyfenw’n Gymreig. Dyma iaith gyntaf fy rhieni a’m mam-guod/tad-cuod. Yn wir, dyma’r iaith gyntaf a siaradais i.

Mae Cymraeg yn fap ffordd o’m diwylliant. Mae’n dweud wrthyf ym mhle y mae fy nheulu wedi bod, ac i ble yr ydym yn mynd fel gwlad.

Mae siarad Cymraeg yn bwysig iawn i mi er mwyn teimlo wedi’n gysylltiedig â’m cymuned, ac er i mi wneud fy Ngradd a’m Gradd Uwch drwy gyfrwng y Saesneg, mae’r rhan fwyaf o’m dysgu wedi bod mewn ysgolion cyfrwng-Cymraeg.

Ynghyd â dysgwyr newydd yr iaith, roeddwn/rwy’n dal i deimlo’n hynod bryderus wrth siarad Cymraeg ag oedolion sy’n fwy sylwgar na mi yn ramadegol ac yn academaidd, gan y byddwn i’n categoreiddio fy hun yn un sy’n siarad Cymraeg llafar.   Felly, gan gadw hyn mewn cof, a chan gymryd naid ffydd, rwyf wedi penderfynu gwneud rhan o’m cymhwyster newydd yn Gymraeg. Rwy’n credu y bydd hyn yn fy ngwthio y tu hwnt i’m cylch cysur ac yn ymestyn fy ngwybodaeth o’r iaith.  Bydd hefyd yn dangos i’m cyflogwyr fy mod yn fodlon bod yn hyblyg.

Bydd y wybodaeth estynedig yma o’r iaith yn help arbennig yn yr ardaloedd o Gymru lle byddaf yn gweithio, gan eu bod ymysg yr ardaloedd o’r wlad sydd â’r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg.

Fel y gwyddom, yng Nghymru, mae rheidrwydd cyfreithiol arnom i ateb y ffôn ac unrhyw ohebiaeth yn  Gymraeg. Bydd ein plant yn dysgu yn ddwyieithog, a fydd, dwi’n meddwl, o fudd mawr iddyn nhw mewn economi byd-eang lle mae’r ffiniau’n mynd yn gulach drwy’r defnydd o dechnoleg.  Yn bersonol, bydd cynyddu fy ngwybodaeth o Gymraeg yn gwella fy sgiliau o ran cyflogadwyedd, gan y byddaf yn dod yn gwbl abl i gyflenwi pob cwrs yn ddwyieithog, felly gallwn gyflenwi i ddysgwyr Cymraeg a Saesneg eu hiaith ar yr un pryd.

Dosberthir y mwyafrif o bobl yng Nghymru yn rhai ‘cyfansawdd ddwyieithog’, sef rhai sy’n dysgu’r Gymraeg a’r Saesneg ar yr un pryd.  Mae dysgu iaith fel plentyn yn rhoi i chi agwedd fwy cyfannol tuag at ieithoedd, ac yn ôl  Marian & Shook 2012, fanteision profedig o ran gweithrediad yr ymennydd, megis:

  • Y gallu i ganolbwyntio’n well ar dasgau
  • Bod yn well wrth newid rhwng tasgau
  • Gwell sgiliau gwybyddol
  • Cof gwell
  • Mae’n haws dysgu ieithoedd eraill

Drwy gyflenwi cyrsiau’n ddwyieithog, rwy’n gobeithio gwella fy sgiliau gwybyddol a defnyddio’r wybodaeth sylfaenol i ddysgu iaith arall.

Oeddech chi’n gwybod bod gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs Swyddogion Hyfforddi sy’n siarad Cymraeg ym mhob rhanbarth, rhai a all eich helpu i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg? Mae gan Lywodraeth Cymru darged eang – erbyn 2020 dylai o leiaf 10% o’r dysgwyr mewn Addysg Bellach fod yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.  Mae gan y sector addysg cyfan ddyletswydd i barhau i wella dwyieithrwydd, a dyna pam ei bod yn arbennig o bwysig i gynorthwyo’n Gweithwyr Chwarae i wella’u sgiliau yn yr iaith Gymraeg drwy ein prosiect, Cymraeg Gwaith.  Rwy’n gobeithio y byddaf, wrth ddod yn fwy medrus yn yr iaith Gymraeg, yn gallu cyflenwi cyrsiau yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, neu’n ddwyieithog i ddysgwyr Saesneg a Chymraeg eu hiaith ar yr un pryd.  A thrwy hynny gyflenwi addysg y mae ein dysgwyr yn ei haeddu yn yr iaith o’u dewis.

Angela Williams
Swyddog Hyfforddi, Gorllewin Cymru

Tagiau