Blog: Hiliaeth a gofal plant

Racism and childcare

Sut y gwelir hiliaeth fel cysyniad ym maes gofal plant? A yw’n gysyniad o gwbl neu a gaiff ei ystyried yn rhywbeth nad yw’n digwydd yma?

Mae llunwyr polisi Iechyd Cyhoeddus – wrth i mi deipio hyn – yn trafod effaith hiliaeth ar iechyd.  Dadleua’r arbenigwr ar Iechyd Cyhoeddus, Yr Athro Kevin Fenton, y “dylem ystyried hiliaeth yn un o benderfynyddion sylfaenol iechyd.

Y mae’n dylanwadu ar sawl mecanwaith, polisi ac arfer sydd yn y pen draw yn effeithio ar iechyd”.  A ellir dweud yr un fath am ofal plant? Os ydym i ddadlau bod darparu gofal plant a reoleiddir, ac sydd o ansawdd, yn gwneud gwahaniaeth gweladwy i fywydau plant, yna ymddengys yn amhosibl dadlau i’r gwrthwyneb.  Os rheolir agweddau yn y maes gofal plant gan syniadau ystrydebol hiliol a stereoteipiau ynghylch sut y mae plant o gefndiroedd ethnig amrywiol neu ddiwylliannau penodol yn ymddwyn, neu os anwybyddir hil ac ethnigrwydd hyd yn oed gan ymarferwyr sy’n (honedig) ddall i liw, yna mae angen i ni newid mewn ffordd radical y ffordd y gweithredwn. 

Sut gall ymarferwyr gofal plant wneud gwir newid o ran herio hiliaeth, a sut allant roi arferion da ar waith yn eu lleoliadau?

  1. Gwybod am y deunydd darllen. Mae cydweithwyr yn ‘Blynyddoedd Cynnar Cymru / Early Years Wales’ wedi llunio stôr defnyddiol o lyfrau ac erthyglau sy’n archwilio hil, ethnigrwydd a diwylliant yn y gymdeithas gyfoes ac ym maes gofal plant (cliciwch yma).  Gwelwch hefyd yr erthygl ddefnyddiol hon gan  PACEY Cymru: : https://www.pacey.org.uk/working-in-childcare/spotlight-on/promoting-positive-diversity/
  2. Craffwch ar eich polisïau. Gofynnwch i’r arbenigwyr. Bu Mudiad Meithrin yn gweithio ochr yn ochr â ‘Cyngor Hil Cymru / Race Council Cymru’ yn ddiweddar er mwyn asesu ei bolisïau o ran hyrwyddo arferion gwrth-hiliol.
  3. Dathlwch wahaniaeth. Mae edau sylfaenol ein natur ddynol yn ein huno oll, pwy bynnag yr ydym, ond gallwn hefyd ddathlu ein gwahaniaethau i ddangos ein bod yn ofalgar ac yn werthfawrogol o’n priod hunaniaethau. Yn ymarferol, golyga hyn wneud ymdrech i ddathlu Diwali, Eid, Rosh Hashanah, Carnifal, Blwyddyn Newydd Tsieneaidd yn ogystal â Dydd Gŵyl Dewi a’r Nadolig neu’r Pasg. Mae amryfal adnoddau ymarferol ar gael i ysbrydoli ymarferwyr.
  4. Ymgysylltwch â dadleuon a gwrandewch ar rai sy’n byw’r profiad. Yn aml gall fod yn anodd i bobl wyn (y mwyafrif o ymarferwyr gofal plant yng Nghymru) i ddeall effaith wanychol hiliaeth bob-dydd a meicro-ymosodiadau. Ond fel y dywed Audre Lorde: “Does dim rhaid i chi fod yn fi er mwyn i ni allu brwydro ochr yn ochr â’n gilydd”. Mae’r sesiwn wythnosol ‘Privilege Cafe’ a lywyddir gan Mymuna Suleyman yn fan diogel, defnyddiol ac addysgol i gynnal dadl.
  5. Heriwch gellwair. Mae’n bosibl mai’r arfer gwael anoddaf i’w wrthsefyll yw cellwair neu jôcs bob-dydd sy’n ymddangos yn ddiddrwg-ddidda. Ni fydd rhai pobl efallai’n ystyried hyn yn hiliol o gwbl.  Addysgwch eraill o’ch cwmpas y gall geiriau frifo ac nad oes unrhyw le i stereoteipiau hiliol ym maes gofal plant.
Racism and Childcare


Efallai y bydd rhai’n darllen y blog yma ac yn dadlau bod plant sy’n derbyn gofal plant (yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar) naill ai’n rhy ifanc i brofi hiliaeth neu’n analluog i werthfawrogi cymhlethdodau’r ddadl gynnil ynghylch hil, lliw a hunaniaeth. Ond mae tystiolaeth pobl liw o fyw’r profiad trwy fudiad ‘Black Lives Matter’ yn dweud stori wahanol. Mae’r pwys yr ydym ni fel sector yn ei roi ar ddarparu gofal plant o ansawdd, wedi ei reoleiddio, yn dweud bod profiad sylweddol a’r modelu rolau o du oedolion yn bwysig. Fel arall, beth ydym ni’n ei ddweud?

Dylem haeru â balchder fod ‘Bywydau Du o Bwys’ a bod ‘Plant Du o Bwys’.

Dr Gwenllian Lansdown Davies, Chief Executive Mudiad Meithrin

Cwlwm Logos

 

Tagiau