Blog: Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r Cod ADY

Women smiles and boy holds a pencil

Fel y gwyddom, mae’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r Cod ADY wedi’u diweddaru yng Nghymru. Gyda hyn daw set newydd o reoliadau statudol gyda’r dyhead i wneud y system yn fwy effeithlon, nid yn unig ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY, ond hefyd ar gyfer y rhieni a’r gofalwyr sy’n eu cefnogi.

Mae’r blog hwn yn amlinellu rhai o’r newidiadau pwysig mewn perthynas â’r sector blynyddoedd cynnar ar ffurf cwestiwn ac ateb. Mae’r tabl isod hefyd yn amlinellu’n fras y newidiadau mewn geirfa y gallech fod wedi bod yn gyfarwydd â nhw o’r blaen:

Terminoleg flaenorol

 

Terminoleg newydd

AAA

Anghenion Addysgol Arbennig

Blue Arrow

ADY

Anghenion Dysgu Ychwanegol

DAA

Darpariaeth Addysgol Arbennig

Blue Arrow

ALP

Darpariaeth Addysg Ychwanegol

CAU

Cynllun Addysg Unigol

Blue Arrow

CDU

Cynllun Datblygu Unigol

CAAA

Cydgysylltydd Anghenion Addysgol Arbennig

Blue Arrow

CADY

Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol

Swyddog AAA Llywodraeth Leol

Swyddog Anghenion Addysgol Arbennig  Llywodraeth Leol

Blue Arrow

SA ADY y Blynyddoedd Cynnar

Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar

 

Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar a Mwy

Blue Arrow

PCP

Ymarfer Sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn


Sylwch: defnyddiwn y term lleoliad nas cynhelir wrth gyfeirio at leoliad gofal plant a ariennir gan yr Awdurdod Lleol i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar. Mae’r Cod ADY yn diffinio’r cyfrifoldeb sy’n gyfreithiol ofynnol gan Awdurdodau Lleol, Ysgolion, Darparwyr Gofal Plant sy’n cynnig addysg wedi’i hariannu, Colegau AB, Unedau Cyfeirio Disgyblion, Plant sy’n Derbyn Gofal ac hefyd am Iechyd.

 

Beth ddylai lleoliad gofal plant neu chwarae ei wneud os ydynt yn meddwl bod gan blentyn ADY?

 

    1. Yn y lle cyntaf, dylai lleoliadau drafod eu pryderon gyda rhieni/gofalwyr.
    2. Yn dilyn trafodaeth gyda rhieni/gofalwyr, gall naill ai'r lleoliad neu'r rhiant ddod â'r pryderon i sylw'r awdurdod lleol.
    3. Os nad oes cytundeb gan rieni i gysylltu â'r awdurdod lleol, dylai'r lleoliad ystyried lles y plentyn ac ystyried cysylltu beth bynnag. Byddai Cydlynydd ADY y Blynyddoedd Cynnar yn bwynt cyswllt cyntaf da.
       

Pwy sy'n penderfynu a oes gan blentyn sy'n mynychu lleoliad gofal plant neu chwarae ADY?

Yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am wneud penderfyniad ynghylch a oes gan blentyn sy’n mynychu lleoliad nas cynhelir ADY (o dan bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ADY). Nid oes gan leoliadau nas cynhelir swyddogaethau o dan y Ddeddf ADY i wneud penderfyniad ynghylch a oes gan blentyn ADY.

Ar gyfer lleoliadau gofal plant a chwarae nad ydynt yn cael eu hariannu ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar, unwaith eto, yr awdurdod lleol fyddai’n gwneud y penderfyniad.
 

       Beth allai'r awdurdod lleol ofyn i mi i helpu i ddarganfod a oes gan blentyn ADY?

Pan fo lleoliad yn cael ei ariannu ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar, gallai’r awdurdod lleol ofyn i’r darparwr nas cynhelir i, er enghraifft, ddarparu rhywfaint o dystiolaeth i helpu’r awdurdod lleol i benderfynu a oes gan y plentyn ADY. I gefnogi’r plentyn, dylai unrhyw dystiolaeth a gynnigir gan y darparwyr addysg gynnar a gofal helpu i ddod i gasgliad gwybodus ynghylch anghenion y plentyn; chi a’ch staff fyddai’n gweld y plentyn yng nghyd-destun ei weithgareddau dyddiol ac yn effro i heriau ac anghenion yr unigolyn. Dyma lle mae eich arsylwadau parhaus yn hynod werthfawr i'r broses.

Ar gyfer lleoliadau nad ydynt yn cael eu hariannu ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar, efallai y gofynnir i chithau hefyd ddarparu tystiolaeth i gefnogi penderfyniadau.
 

        A oes angen i ni benodi Cydlynydd ADY yn ein lleoliad?

Yn wahanol i ysgolion, nid oes gofyniad i leoliadau nas cynhelir neu leoliadau gofal plant a chwarae yn fwy cyffredinol i benodi Cydlynydd ADY penodol. Fodd bynnag, mae'n arfer gorau i un neu ddau o bobl weithredu fel y prif gyswllt rhwng y lleoliad a'r Cydlynydd ADY Blynyddoedd Cynnar. Bydd Cydlynydd ADY y Blynyddoedd Cynnar yn rheoli’r dyletswyddau statudol sydd gan Awdurdodau Lleol ar gyfer pob plentyn o dan yr oedran ysgol gorfodol.
 

        Pwy sy'n creu, cynnal a gweithredu Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ar gyfer plentyn sydd wedi'i nodi ag ADY?

Mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol am benderfynu ar y cymorth priodol ar gyfer plant unigol ac am reoli'r broses CDU. Ar gyfer plant y nodir bod ganddynt ADY sy'n mynychu lleoliad gofal plant neu chwarae, cyfrifoldeb y Cydlynydd ADY Blynyddoedd Cynnar, neu Swyddog Awdurdod Lleol dirprwyedig sy’n atebol i Gydlynydd ADY y Blynyddoedd Cynnar, yw hyn.
 

A fydd yn ofynnol i mi fynychu cyfarfod Ymarfer sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (PCP)?

Nid oes unrhyw orfodaeth gyfreithiol i fynychu cyfarfod PCP fel lleoliad nas cynhelir. Pan fydd darparwr yn dymuno derbyn gwahoddiad i gyfrannu at gyfarfod ynghylch ADY neu CDU, gellid gwneud hyn drwy fynychu’r cyfarfod (yn bersonol neu o bell) neu drwy gyfrannu y tu allan i’r cyfarfod, er enghraifft drwy ddarparu rhywfaint o dystiolaeth am anghenion neu gynnydd y plentyn.

Sut gallai awdurdod lleol ofyn i mi gefnogi plant ag ADY mewn lleoliad nas cynhelir?

Os yw plentyn sy’n mynychu eich darpariaeth wedi’i adnabod fel plentyn sydd ag ADY a bod CDU wedi’i ddatblygu gan yr awdurdod lleol, dylech, lle gofynnir am hynny, helpu’r awdurdod lleol gyda’i swyddogaethau ADY mewn perthynas â’r plentyn hwnnw. Gall yr awdurdod lleol, er enghraifft, drefnu i therapydd lleferydd ac iaith ddarparu therapi i blentyn neu, lle bo’n briodol, gall drefnu i therapydd lleferydd ac iaith ddarparu hyfforddiant ac adnoddau i aelodau o staff mewn lleoliad gofal plant i’w galluogi i gefnogi’r plentyn. Bydd y CDU yn nodi arferion ategol a fydd yn helpu’r plentyn gyda’i ddysgu, ei ddatblygiad a’i ofal yng nghyd-destun y lleoliadau y mae’n eu mynychu.

Os yw’r plentyn yn derbyn addysg neu ofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid dogfennu hyn yn y CDU a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod unrhyw gefnogaeth ar gael hefyd trwy gyfrwng y Gymraeg.


Sut alla i gefnogi plant ag ADY mewn lleoliad gofal plant neu chwarae?

Mae'n bwysig cael polisi sy'n dilyn deddfwriaeth a chanllawiau cyfredol mewn perthynas ag ADY. Dylid diweddaru hwn yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu newidiadau i'r ddeddfwriaeth, y canllawiau a'r prosesau lleol sydd ar waith.

Mae’n bwysig gweithio gyda’r rhiant(rhieni)/gofalwr(gofalwyr) i ddeall sut i gefnogi plentyn gyda phroblemau a heriau penodol er mwyn helpu’r plentyn i gael mynediad at y cyfleoedd a’r profiadau mewn ffordd mor gadarnhaol â phosibl.

Mae canllawiau ac adnoddau pellach ar gael i'ch helpu i gefnogi plant ag ADY. Cysylltwch â'ch Sefydliad Ymbarél perthnasol.


Beth os nad yw rhiant yn hapus gyda phenderfyniad a wnaed mewn perthynas â'u plentyn ynghylch ADY?

Mae’n bwysig nodi bod hawliau’r rhiant a’r plentyn yn cael eu hamddiffyn. Os yw rhiant yn anghytuno â phenderfyniad a wnaed gan yr ALl, mae ganddo’r hawl i apelio i’r Tribiwnlys Addysg yn erbyn penderfyniadau a wneir gan awdurdod lleol mewn perthynas ag ADY eu plentyn neu eu CDU.


A fydd hyfforddiant ar gyfer lleoliadau gofal plant mewn perthynas ag ADY?

Er nad yw’r Ddeddf na’r Cod yn gofyn am unrhyw hyfforddiant ychwanegol ar gyfer darparwyr, dylai’r Cydlynydd ADY Blynyddoedd Cynnar sicrhau bod systemau neu drefniadau ar waith i gefnogi staff gofal plant i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth am ADY. Gallai hyn helpu i ganfod plant ag ADY yn gynnar a hwyluso ymyriadau cymorth cynnar. Dylai Cydlynydd ADY y Blynyddoedd Cynnar hefyd helpu i godi ymwybyddiaeth o’r systemau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer ADY o dan y Ddeddf a’r Cod yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynhyrchu cyfres o raglenni hyfforddi am y system ADY, gan gynnwys cyflwyniad i’r system ADY – cyflwyniad i’r system ADY.


A oes adnoddau i’w rhannu gyda rhieni ynglŷn â'r newidiadau hyn?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu clip fideo byr i rieni yn esbonio'r system newydd. Rhannwch gyda’ch rhieni, gofalwyr a theuluoedd:

https://www.youtube.com/watch?v=RGCz5c23Cag

Sut alla i weithio gyda lleoliadau addysg, gofal plant a chwarae eraill y gallai plentyn fod yn eu mynychu?

Fel y crybwyllwyd, mae’r Cod yn gosod dyletswyddau penodol ar Awdurdodau Lleol a darparwyr nas cynhelir. Pan fo plentyn yn derbyn gofal mewn cyd-destunau eraill (lleoliadau gofal plant, darpariaeth gofal cofleidiol, gofal plant y tu allan i’r ysgol) ochr yn ochr ag addysg, arfer da fyddai i’r lleoliadau hyn gydgysylltu, gyda chaniatâd rhieni, i gael dealltwriaeth lawn o anghenion y plentyn.

Ble galla i gael cymorth ac arweiniad pellach?

Pwrpas yr holl ddiweddariadau hyn yw helpu i gefnogi’r broses o adnabod ADY yn gynnar a helpu plant i wneud cynnydd dysgu, osgoi'r heriau sy'n gysylltiedig â gweithredu cymorth yn hwyr i'r plentyn ac amddiffyn Hawliau'r plentyn. I gael gwybod mwy, neu am ragor o gymorth, cysylltwch â'ch Sefydliad Ymbarél perthnasol.