BLOG 1: Working with Coronavirus- Reanne’s experience/Profiad Reanne – Gweithio gyda Coronafeirws

I have been a childminder in Barry in the Vale of Glamorgan in Wales for twenty two years. I work alone although currently I have two of my children home, if I can still call them children at 22 and 18. My husband works full time and the nature of his employment means he is still going out to work as he is unable to work from home. Before COVID-19 I had 10 children regularly attending my setting and was working into most evenings.

COVID-19 has changed the way that I work in that my days are now much shorter and I only care for children from three families of critical workers. Two of these families were in my care prior to the current COVID-19 situation with one child from a family who is new to me and came due to a local playgroup closing. I work across five days with the children from different families not mixing. One family comes three days a week and the other two families one day a week each. I decided early on I didn’t want to mix children from different families within the setting during this period.

Parental feedback from making this choice has been positive as they themselves are as worried as childminders are about contracting the virus. The less they mix, the lower the risk.

Risk assessment

My decision to not mix the families was led by risk assessments, by doing this I am also able to better rotate and clean resources to reduce infection risks.  I have limited some aspects of messy play, while still providing opportunities for it. Each child has their own resource and area to avoid cross contamination.

I also decided I wanted to improve my knowledge and understanding of COVID-19, I have therefore accessed online training to add to my Professional Development Profile (PDP) and improve my practices.

In terms of drop offs and pick-ups, it is not feasible for my setting to do a door step procedure due to being a terraced house and one of the children being only one year old. As such, I concluded confidentiality could not be maintained on the doorstep and that one parent entering and collecting their child was a minimal risk to myself. Staggered timings for this will be utilised in the future.

The children have become accustomed to washing their hands before play on arrival, and more frequently throughout the day. This includes the usual routine of before food, after toileting, outside play and handling animals for example. It is important that I am able to maintain a supply of antibacterial soap, kitchen towel and alcohol hand sanitiser. Although this was difficult to acquire at the start of the pandemic, it is now becoming more accessible.

I have chosen not to wear a facemask as I believe this could cause further anxiety in the children, in an already strange set of circumstances. I feel that usual infection prevention control measures are sufficient and I intend to re-evaluate this as the setting prepares for opening fully.

Self-isolating experience

Many of us may be worried we risk our families by caring for key worker children, as their parents could be directly involved with caring for someone with COVID-19.

I had to isolate during lockdown as my husband came home from work with a cough. I immediately informed my families I would be closing for 14 days. I informed CIW, local authority and temporarily closed my setting.

On the 14th day my husband went back to work (at last), and I informed CIW and local authority I would be reopening, 2 days later, the little ones returned to my care.

Staying connected

It was important for me to keep in contact with children who were not able to use my setting. I informed parents that the Welsh Government recommended restricting childcare to families of critical workers and vulnerable children and provided the link to guidance as soon as this was announced. All parents understood and as the day progressed more were saying they had been furloughed or would be working from home.

We have a Facebook messenger group for news and announcements and this has become the parents zone where we check in, share resources, photographs, moan and chat.

Children in my care have formed attachments and friendships within the setting and whilst separated may experience some form of loss. I am aware that this can often manifest into changes in behaviour, clinginess and sleeping problems. These are all dependent on age and stage. So I proposed a ‘secret’ Facebook group for the children, invite only and obviously with parental supervision as using parents accounts. Here, they can post pictures and maybe videos to each other, what they have been up to.

I also used video calls to stay in touch including a virtual Easter egg hunt. Those who joined enjoyed seeing their friends whilst some of the younger ones found it confusing and strange as they did not know how to interact virtually.

I have sent out and/or delivered activity packs for Easter and VE Day, the children also received Easter eggs (although late as isolating interrupted) and most recently cards to say that I missed them.

I also put together a digital retelling of ‘We’re Going on a Bear Hunt’ to share with children virtually.  My daughter helped with the filming and the dog even starred too! Children and their families (old, current and new) loved it.  Flying Start promoted it, FIS shared it and I posted it on PACEY Cymru Facebook page. I’m withholding the blooper reel but may release one day in the future to give the children a giggle. The story received a fantastic response with parents commenting that their children watched it multiple times and keep requesting it!

Barry Childminders from the Vale of Glamorgan also virtually got together and created a joint message for all our children that was shared on Facebook.

I’m only a phone call or text away from my families, and although some are quiet which is fine, we all deal in different ways, others are connecting and asking advice or just checking that I am ok. The parents know I am there for them during this difficult time and it is clear that they are missing me just as much as I am missing them.

What’s next?

Looking forward, and seeing how England is reopening childminding services, I am starting to plan and prepare ways in which I can maintain a safe healthy environment with more children and how to reassure parents when announcements confirm the position around wider re-opening in Wales.

I have produced and sourced new resources that may benefit the children’s wellbeing such as books and new, bright eye catching hand washing posters.

I look forward to welcoming the children back, although it will be sad to have to let my new little one go back to his playgroup.

These times are difficult and unsure but it’s important that we remain a part of the effort in fighting the virus, be it supporting key worker families or providing smiles and guidance for our existing families.

Read other experiences and access resources in the Coronavirus spotlight.

Rwyf wedi bod yn warchodwr plant yn y Barri, Bro Morgannwg yng Nghymru am ddwy ar hugain blynedd. Rwy’n gweithio ar fy mhen fy hun, er hyn mae fy mhlant yn byw gartref, os yn iawn i ddweud plant gan eu bod yn 22 a 18 oed. Mae fy ngŵr yn gweithio llawn amser ac mae natur ei swydd yn golygu bod rhaid iddo fynd i’w gwaith gan nad yw’n gallu gweithio o’i gartref. Cyn Covid-19, mi oeddwn yn gwarchod 10 o blant yn rheolaidd ac yn gweithio yn hwyr.

Mae Covid-19 wedi newid y ffordd yr wyf yn gweithio yn yr ystyr bod fy nyddiau yn llawer byrrach ac yr wyf yn gofalu am blant i dri theulu sy’n weithwyr hanfodol. Mi oeddwn yn darparu gofal ar gyfer dau deulu cyn y sefyllfa COVID-19 bresennol, ac mae gen i un plentyn sy’n newydd i mi gan fod y cylch chwarae lleol wedi cau. Rwy’n gweithio ar draws pum diwrnod gyda’r plant o wahanol deuluoedd er mwyn osgoi cymysgu’r teuluoedd. Daw un teulu tair gwaith yr wythnos, a’r ddau deulu arall yn dod unwaith yr wythnos yr un. Penderfynais yn gynnar nad oeddwn am i blant o deuluoedd gwahanol gymysgu yn y lleoliad yn ystod y cyfnod yma.

Mae adborth rhieni o’r penderfyniad yma wedi bod yn gadarnhaol gan eu bod nhw eu hun yn bryderus am gontractio’r firws. Cyn lleiaf y maent yn cymysgu, y lleiaf y risg.

Asesiad risg

Roedd y dewis i osgoi cymysgu’r teuluoedd yn rhan o’n hasesiadau risg, drwy wneud hyn rwyf hefyd yn gallu cylchdroi a glanhau adnoddau yn well sy’n lleihau risg heintiad. Rwyf wedi cyfyngu rhai agweddau ar chwarae synhwyro, er yn parhau i ddarparu cyfleoedd ar ei gyfer. Mae gan bob plentyn adnoddau ac ardal ei hun er mwyn osgoi croeshalogi.

Fe wnes i hefyd benderfynu gwella fy ngwybodaeth a dealltwriaeth o COVID-19, felly rwyf wedi cwblhau hyfforddiant ar-lein i ychwanegu at fy Mhroffil Datblygiad Proffesiynol (PDP) a gwella fy arferion.

O ran gollwng a chasglu, nid yw’n ymarferol i wneud gweithdrefnau trosglwyddo plant wrth y drws oherwydd fy mod yn byw yn dŷ teras a bod un o’r plant yn flwydd oed. Fe ddes i i’r casgliad na ellid cynnal cyfrinachedd wrth y drws a bod croesawi un rhiant ar y tro i gasglu ei plentyn yn risg bychan mi. Defnyddir amseriadau cyfnodol ar gyfer hyn yn y dyfodol.

Mae’r plant wedi dod yn gyfarwydd â golchi eu dwylo wrth gyrhaedd a chyn chwarae, ac yn amlach trwy gydol y dydd. Mae hyn yn cynnwys y drefn arferol cyn bwyd, ar ôl bod i’r toiled, chwarae tu allan a thrafod anifeiliaid er enghraifft. Mae’n bwysig fy mod yn gallu cadw cyflenwad sebon gwrthfacterol, papur cegin a glanweithydd dwylo alcohol. Er ei bod yn anodd caffael hyn ar ddechrau’r pandemig, erbyn hyn mae’n fwy hygyrch.

Rwyf wedi dewis peidio â gwisgo masg wyneb gan fy mod yn credu gall hyn achosi pryder pellach, mewn amgylchiadau sydd eisoes yn rhyfedd. Rwy’n teimlo bod y mesurau rheoli atal heintiau arferol yn ddigonol ac rwy’n bwriadu ail-werthuso hyn wrth i’r lleoliad baratoi ar gyfer agor yn llawn.

Profiad hunan-ynysu

Efallai bod llawer ohonom yn poeni ein bod yn peryglu ein teuluoedd trwy ofalu am blant gweithwyr allweddol, oherwydd gall eu rhieni bod yn â gofalu am rywun sy’n dioddef o COVID-19.

Bu’n rhaid i mi ynysu yn ystod y cyfyngiadau gan fod fy ngŵr wedi ddod adref o’r gwaith gyda pheswch. Hysbyswyd y teuluoedd ar unwaith y byddwn yn cau am 14 diwrnod. Hysbyswyd AGC a’r awdurdod lleol a chaewyd y lleoliad dros dro.

Ar y 14eg diwrnod aeth fy ngŵr yn ôl i’r gwaith (o’r diwedd), a hysbysais AGC a’r awdurdod lleol y byddwn yn ailagor, 2 ddiwrnod yn ddiweddarach dychwelodd y rhai bach i’m gofal.

Cadw mewn cyswllt

Roedd yn bwysig imi gadw mewn cyswllt â phlant nad oeddent yn gallu defnyddio fy lleoliad. Rhoddais wybod i’r rhieni bod Llywodraeth Cymru wedi argymell cyfyngu gofal plant i deuluoedd gweithwyr hanfodol a phlant bregus a rhannwyd dolen i ganllawiau cyn gynted ag y cyhoeddwyd hyn. Roedd pob rhiant yn deall ac wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen roedd mwy yn dweud eu bod wedi derbyn neges o fod ar ffyrlo neu’n gweithio o’r cartref.

Mae gennym grŵp negesydd ar Facebook ar gyfer newyddion a chyhoeddiadau ac y mae’n barth lle rydym yn cofnodi i mewn, yn rhannu adnoddau, ffotograffau, sgwrsio ac yn cwynfan.

Mae plant yn fy ngofal wedi ffurfio ymlyniadau a chyfeillgarwch yn y lleoliad ac er eu bod wedi gwahanu gallant brofi rhyw fath o golled. Rwy’n ymwybodol y gall hyn ymddangos mewn newidiadau i’w ymddygiad, gan gynnwys problemau glynu a chysgu. Mae’r rhain i gyd yn dibynnu ar oedran a cham. Felly cynigiais grŵp Facebook ‘cyfrinachol’ ar gyfer y plant, gwahodd yn unig ac yn amlwg gyda goruchwyliaeth ac yn defnyddio cyfrifon rhieni. Yma, gallant bostio lluniau ac efallai fideos i’w gilydd, ac am yr hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud.

Defnyddiais galwadau fideo hefyd i gadw mewn cysylltiad gan gynnwys helfa wy Pasg digidol. Roedd y rhai a ymunodd yn mwynhau gweld eu ffrindiau tra bod y plant iau yn ei chael hi’n anodd ac yn drysu gan nad oeddent yn gwybod sut i ryngweithio’n ddigidol.

Rwyf wedi anfon a/neu ddosbarthu pecynnau gweithgaredd ar gyfer y Pasg a Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE), derbyniodd y plant wyau Pasg hefyd (er eu bod yn hwyr oherwydd y cyfyngiadau) ac yn fwyaf diweddar gardiau i ddweud fy mod yn eu colli.

Yn ogystal â hyn, wnes i ailadrodd yn ddigidol y stori ‘Dyn Ni yn Mynd i Hela Arth’ i’w rannu gyda phlant ar lein. Gwnaeth fy merch helpu gyda’r ffilmio ac fe wnaeth y ci hyd yn oed serennu hefyd! Wnaeth y plant a’u teuluoedd (hen, cyfredol a newydd) mwynhau. Hyrwyddodd Dechrau’n Deg y fideo, rhannodd GGD a rhannais ar dudalen Facebook PACEY Cymru. Rwy’n dal ymlaen i’r fideo ‘blooper’ ond mae’n bosib y byddai’n ei rhannu yn y dyfodol er hwyl y plant. Derbyniodd y stori ymateb wych gyda rhieni yn nodi bod eu plant yn ei wylio sawl gwaith ac yn dal i ofyn amdan i!

Gwnaeth gwarchodwyr plant Barri, Bro Morgannwg hefyd ddod at ei gilydd yn ddigidol i greu neges grŵp, a rannwyd ar Facebook.

Dim ond galwad ffôn neu neges destun ydw i oddi wrth fy nheuluoedd, ac er bod rhai yn dawel sy’n iawn, rydyn ni i gyd yn delio a hyn mewn gwahanol ffyrdd, mae eraill yn cysylltu ag yn gofyn am gyngor neu’n cadw mewn cyswllt i sicrhau fy mod i’n iach. Mae’r rhieni’n gwybod fy mod i yno ar eu cyfer yn ystod yr amser anodd yma ac mae’n amlwg eu bod yn fy ngholli i gymaint ag yr wyf yn eu colli nhw.

Beth nesaf?

Wrth edrych ymlaen, ac yn gweld sut mae Lloegr yn ailagor eu gwasanaethau gofal plant, rwy’n dechrau cynllunio a pharatoi ar gyfer lleoliad ac amgylchedd diogel ac iachus gyda mwy o blant, a sut y byddaf yn tawelu meddyliau rhieni pan fydd cyhoeddiadau’n cadarnhau’r sefyllfa ynghylch ailagor yng Nghymru.

Rwyf wedi cynhyrchu a dod o hyd i adnoddau newydd gall fod o fudd i les y plant, pethau fel llyfrau a phosteri golchi dwylo newydd, llachar sy’n dal llygaid.

Rwy’n edrych ymlaen at groesawi’r plant yn ôl, er y bydd yn drist gorfod gadael i’r un bach newydd fynd yn ôl i’w gylch chwarae.

Mae’r amseroedd hyn yn anodd ac yn ansicr ond mae’n bwysig ein bod yn parhau i fod yn rhan o’r ymdrech i ymladd y firws, boed yn cefnogi teuluoedd gweithwyr hanfodol neu’n darparu gwenau ac arweiniad i’n teuluoedd presennol.

Darllenwch brofiadau eraill a chael gafael ar adnoddau yn y Coronavirus spotlight.

BLOG 2: Working with Coronavirus- Bethany’s experience / Profiad Bethany – Gweithio gyda Coronafeirws

I have been working as a childminder for three and a half years in Blaenau Gwent in Wales. When the coronavirus hit I was really nervous to continue childminding for children of key workers or vulnerable children. My daughter was only 16 months at the time and I was concerned for her wellbeing.

Financial issues were also a worry. How would we cope without my wage coming in? How long would we be in lock down and only able to provide childcare to certain families? Would the children I cared for ever come back? Would my business survive?

However, I followed Welsh Government guidance, informed parents, and hoped for the best. My critical worker families chose to keep their children home and so I busied myself updating my policies, procedures and risk assessments.

After eight weeks of lockdown I was contacted by one of the Flying Start team in my Local Authority and asked if I could help out a family in need with temporary childcare. I was happy to do so and started to prepare a contract.

Completing a childminding contract

In normal circumstances I would invite a parent round and we would discuss and complete a contract together.  As this was now impossible I talked through each section with the parent over the phone. I then completed as much as I could of the contract before posting it through the parent’s door for them to fill in their sections and sign and date. I encouraged them to phone me with any further questions. This worked well. I also e mailed copies of my policies and procedures rather than provide them in paper form.

Social distancing

I was worried about picking the child up from their home however I was able to stand back from the door and the child walked across to me. This made me think further about a need to write a drop off/pick up policy as I needed to consider how I would manage drop offs of younger children and babies.  I decided that the use of a pushchair would be best in these instances.  I may also consider staggered drop off/pick up times.

Social distancing was also a concern when settling children into the setting. How would I manage this with a young child who was experiencing some separation anxiety? I decided that children’s emotional needs must come first and a child that needed cuddles should have them. Families need to know that their child will be nurtured and shown love. However this will be balanced by careful hygiene routines and common sense.

Hygiene

Following the guidance on careful handwashing I now encourage children to wash their hands on arrival, frequently throughout the day and on leaving my setting. Coats and shoes are left at the door and no outdoor shoes are worn in the house.  When drying their hands children use a clean flannel which is then taken to be washed after each use. This single use of flannels allows me to follow infection control guidance and also reduce waste.

I also thought carefully about the types and amount of toys and resources I have. Soft toys are difficult to keep clean so I made the decision to remove these from my setting. I have also condensed the amount of toys available so that they can be easily rotated and disinfected at the end of each day.

Kitchen hygiene is really important. I asked parents to provide plastic wipeable lunchboxes that I wipe down on arrival and store in a separate part of my fridge. I have also started wearing gloves when preparing food as an extra protection.

Outside play

I was so happy that I was able to use my Capital Grant funding from my Local Authority to improve my garden earlier this year.

Outdoor play has become even more important now that we cannot take children to public parks and play centres.  I have adapted my working practices here as well. For example during sand play I provide the children with separate trays of sand. For water play I have added soap to this and is done through the use of individual bowls to ensure there is no physical contact between children during the play. This is extra fun with the bubbles and also encourages hand washing games.

I am happy that I have been able to support a family through this crisis and doing so has given me an opportunity to rethink my working practices, and reflect on my hygiene routines. I am continually adapting as I risk assess different situations and different children’s needs. When settings are able to reopen fully in Wales I feel I will be better prepared.

Read other experiences and access resources in the Coronavirus spotlight

Rwyf wedi bod yn gweithio fel gwarchodwr plant am dair blynedd yn hanner ym Mlaenau Gwent yng Nghymru. Pan darodd y Coronafeirws mi oeddwn yn ofnus iawn i barhau gofalu am blant bregus a gweithwyr hanfodol. Roeddwn yn poeni am les fy merch gan ei bod ond 16 mis oed ar y pryd.

Roedd materion ariannol hefyd yn bryder. Sut byddwn yn ymdopi heb y cyflog? Pa mor hir byddai’r cyfyngiadau yn parhau ac yn darparu gofal i rai teuluoedd yn unig? Byddai’r plant yn fy ngofal byth yn dychwelyd? Byddai’r busnes yn goroesi?

Serch hynny, dilynais arweiniad Llywodraeth Cymru, diweddarwyd rhieni, a gobeithiais am y gorau. Dewisodd y teuluoedd hanfodol i gadw eu plant adref ac felly bues i’n brysur yn diweddaru fy  mholisïau, gweithdrefnau ac asesiadau risg.

Ar ôl wyth wythnos o’r cyfyngiadau gwnaeth aelod o dîm Dechrau’n Deg o’r Awdurdod Lleol cysylltu â mi yn gofyn a byddwn yn gallu helpu teulu gyda gofal plant dros dro. Roeddwn yn hapus i wneud hynny a chychwynnais ar baratoi’r contract.

Cwblhau contract gwarchod plant

Mewn amgylchiadau cyffredin byddwn yn gwahodd rhiant i mewn a byddwn yn trafod a chwblhau’r contract gyda’n gilydd. Gan fod hyn bellach yn amhosib, siaradais trwy bob adran gyda’r rhiant dros y ffôn. Fe wnes i gwblhau cymaint ag y gallwn o’r contract cyn anfon i’r rhiant er mwyn iddynt lenwi’r adrannau priodol ac i arwyddo a’i dyddio. Anogais iddynt alw os oedd ganddynt unrhyw gwestiynau pellach. Gweithiodd hyn yn dda. Fe wnes i hefyd e-bostio copïau o’n polisïau a gweithdrefnau yn hytrach na ddarparu nhw mewn ffyrdd papur.

Cadw pellter cymdeithasol

Roeddwn yn poeni am gasglu’r plentyn o’i gartref, er hynny roeddwn yn gallu sefyll digon pell oddi ar y drws a cerddodd y plentyn draw ata’i. Gwnaeth hyn wneud i mi feddwl yn fwy manwl ac ysgrifennu polisi gollwng a chasglu, gan ystyried sut byddwn yn rheoli casglu a gollwng baban neu blentyn ifanc. Penderfynais mai defnyddio pram oedd y cam orau yn y sefyllfaoedd yma. Byddaf hefyd yn ystyried amseroedd penodedig gollwng /casglu.

Roedd cadw pellter cymdeithasol hefyd yn bryder wrth wahodd plentyn i mewn i’r lleoliad. Sut byddwn yn rheoli hyn gyda phlentyn bach a oedd yn profi pryder gwahanu? Penderfynais mai anghenion emosiynol y plentyn oedd yn bwysig a bod plentyn sydd angen cwtsh yn derbyn hyn. Mae angen i deuluoedd gwybod bod eu plentyn yn cael ei feithrin a dangos cariad tuag at. Fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei gydbwyso gan arferion hylendid gofalus a synnwyr cyffredin.

Hylendid

Trwy ddilyn yr arweiniad am olchi dwylo’n ofalus rwy’n annog plant i olchi eu dwylo wrth gyrraedd, yn aml trwy gydol y dydd ac wrth adael fy lleoliad. Mae cotiau ac esgidiau yn cael eu gadael wrth y drws, ac nid oes esgidiau yn cael eu gwisgo yn y tŷ. Wrth sychu dwylo, mae’r plant yn defnyddio tywel bach glân sydd wedyn yn cael ei lanhau. Mae’r defnydd yma o ddefnyddio’r tywelion bach yn caniatáu imi ddilyn canllawiau rheoli heintiau a hefyd lleihau gwastraff.

Fe wnes i hefyd meddwl yn ofalus am y mathau a’r nifer o deganau ac adnoddau sydd gen i. Mae teganau meddal yn anodd cadw’n lân, felly penderfynais i roi nhw i ffwrdd dros dro. Rwyf hefyd wedi cywasgu’r nifer o deganau sydd ar gael er mwyn iddynt gael ei chylchdroi a glanhau’n hawdd ar ddiwedd pob dydd.

Mae hylendid y gegin yn bwysig iawn. Gofynnais i rieni i ddarparu bocs bwyd plastic sydd yn cael ei sychu yn syth wrth i’r plentyn gyrraedd, ac sy’n cael ei gadw mewn adran ar wahân yr oergell. Dwy hefyd wedi dechrau gwisgo menig wrth baratoi bwyd fel rhagofal ychwanegol.

Chwarae tu allan

Roeddwn mor hapus fy mod yn gallu defnyddio’r Grant Cyfalaf, derbyniwyd gan yr Awdurdod Lleol i wella’r ardd yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae chwarae yn yr awyr agored wedi dod yn bwysicach fyth gan nad ydynt yn gallu ymweld â pharciau cyhoeddus a chanolfannau chwarae. Rwyf wedi addasu fy arferion gweithio yma hefyd. Er enghraifft, yn ystod chwarae tywod rwy’n darparu hambyrddau o dywod ar wahân i’r plant. Yn ystod chwarae tywod darparaf hambyrddau o dywod unigol i’r plant. Ar gyfer chwarae dŵr rwyf wedi ychwanegu sebon at hyn ac yn defnyddio powlenni unigol i sicrhau nad oes unrhyw gyswllt corfforol rhwng plant yn ystod y gweithgaredd. Mae hyn yn hwyl ychwanegol gyda’r swigod ac yn annog gemau golchi dwylo.

Rwy’n hapus fy mod wedi gallu cefnogi’r teulu drwy’r argyfwng hwn ac mae gwneud hynny wedi rhoi cyfle imi ailfeddwl am fy arferion gwaith, ac adlewyrchu ar fy arferion hylendid. Rwy’n parhau i addasu trwy asesu gwahanol sefyllfaoedd risg ac anghenion gwahanol blant. Teimlaf fy mod wedi paratoi’n dda ar gyfer yr amser i ailagor yn llawn yng Nghymru.

Darllenwch brofiadau eraill a chewch hyd i adnoddau yn ‘Spotlight’ Coronafirws.