Mae Llywodraeth Cymru wedi newid yr arweiniad a gynigiwyd yn flaenorol o ran cyrchu Cyllid Cynnig Gofal Plant i rieni sy’n defnyddio perthynas sy’n warchodwr plant cofrestredig. Golyga’r newid hwn fod gwarchodwyr plant yng Nghymru bellach mewn sefyllfa debyg i warchodwyr plant yn Lloegr lle nad ydynt yn gallu darparu gofal plant wedi’i ariannu ar gyfer plant sy’n perthyn.
Beth yw’r newid yn yr arweiniad sydd wedi’i gadarnhau i Gymru?
Daw’r newid yn yr arweiniad o adolygiad o’r gyfraith mewn perthynas â Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016’ fel a diwygiwyd yn 2016. Mae’r Gorchymyn hwn yn nodi nad yw person sy’n gofalu am blentyn dan ddeuddeg ar eiddo domestig am dâl y yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw’r person yn rhiant, neu’n berthynas i’r plentyn neu’n rhiant maeth i’r plentyn. Aiff y Gorchymyn Eithriadau ymlaen i ddiffinio perthynas fel ‘teidiau a neiniau, brodyr, chwiorydd, ewythrod neu fodrybedd (boed yn waed llawn neu hanner gwaed, neu drwy briodas neu bartneriaeth sifil) neu llys-riant.’
Beth oedd yr arweiniad blaenorol?
Dan yr arweiniad blaenorol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, yr esiampl a rennir gan PACEY Cymru o Gymru yn arwain y ffordd er mwyn cefnogi cynaladwyedd gofal plant ac ymagwedd gymesur, gallai neiniau a theidiau neu berthynas arall ddarparu’r Cynnig Gofal Plant a ariennir os bydd y gofal, yn gyfan gwbl neu’n bennaf, y tu allan i gartref y plentyn.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae PACEY Cymru’n ymwybodol o amgylchiadau lle mae’r newid hwn yn y sefyllfa wedi golygu bod teuluoedd â threfniadau gofal plant preifat tymor hir gyda gwarchodwyr plant bellach yn cael dewis os ddylid parhau â’u trefniant gwarchod plant preifat presennol, a chost ariannol hyn, neu symud plant i leoliad lle gallant gael gafael ar y cyllid gan amharu’n sylweddol ar barhad y gofal. Gall hyn fod yn arbennig o niweidiol os oes anabledd neu anghenion arbennig o ran addysg gan y plentyn. Mae hyn hefyd yn effeithio ar gynaliadwyedd gwasanaethau gwarchod plant.
Mae Joy Edwards, gwarchodwr plant cofrestredig o Gaerffili, yn un o’r rhai yr effeithir arnynt gan y newid. Nid yw Joy bellach yn gallu darparu lleoedd Cynnig Gofal Plant a ariennir ar gyfer ei hwyrion/wyresau sydd wedi ymgartrefu yn ei lleoliad. O fis Ionawr ymlaen, rhoddwyd dau o wyrion/wyresau Joy yng ngofal darparwyr gofal plant eraill lle byddai’n rhaid i Joy gymryd dau blentyn arall i gynnal ymarferoldeb ei busnes gwarchod plant. Meddai Joy ‘Nid yw’r newid hwn yn ystyried lles plant, gan gynnwys fy wyrion a’m hwyresau, sy’n gyfyrdryd a chyfnitherod a fydd yn cael eu gwahanu a’u symud o’m gwasanaeth i ble maen nhw wedi ymgartrefu. Mae’n rhaid i’w rhieni benderfynu p’un ai i gyrchu gofal plant a ariennir yn rhywle arall (os oes gofal ar gael) neu i barhau i’m talu’n breifat a fydd yn effeithio arnynt yn ariannol. Mae’n debyg bod hyn yn erbyn nodau’r Cynnig Gwarchod Plant o ran cefnogi cynaladwyedd, lles plant a lleihau’ r‘pwysau ariannol ar deuluoedd’.
Mae’r mater ynghylch gofalu am blant sy’n perthyn a chyrchu cyllid yng Nghymru yn unigryw i warchodwyr plant; caniateir i unigolion sy’n gweithio mewn neu sy’n berchen ar feithrinfa’r hawl i hawlio ar gyfer blant sy’n perthyn.
Beth yw’r camau nesaf?
Trafodwyd y mater gan Cwlwm a Llywodraeth Cymru. Mae PACEY Cymru wedi ysgrifennu at y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol i godi pryderon ynglŷn â hyn ac i dynnu sylw at y materion sy’n wynebu aelodau. Mae Claire Protheroe, Rheolwr Gwasanaethau Uniongyrchol (Cymru) ar gyfer PACEY Cymru hefyd wedi cyfarfod gydag uwch Weision Sifil o Lywodraeth Cymru i roi pwysau ar y llywodraeth i newid eu safbwynt mewn perthynas â hyn. Maent yn ymchwilio i’r sefyllfa ymhellach ac fe ddefnyddir unrhyw dystiolaeth neu astudiaethau achos y gallwn eu casglu i gefnogi ein gwaith lobïo yng Nghymru ac mae PACEY Cymru wedi llunio holiadur ar-lein i gasglu safbwyntiau gwarchodwyr plant cofrestredig ynglŷn â hyn. Byddem yn gwerthfawrogi hyrwyddo’r arolwg hwn i sicrhau cyfradd ymateb dda. Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 10 munud a chaiff yr holl safbwyntiau a rennir eu trin yn gyfrinachol. Mae’r stori hefyd wedi cael ei chodi gan y cyfryngau yng Nghymru.
Mae’r arolwg ar gael i warchodwyr plant yng Nghymru drwy’r Saesneg yma
Mae’r arolwg ar gael i warchodwyr plant yng Nghymru drwy’r Gymraeg yma
Gallwch chi hefyd gysylltu â ni yn paceycymru@pacey.org.uk i rannu unrhyw bryderon, ymholiadau neu brofiadau penodol.
Am wybodaeth bellach ar y cynnig Gofal Plant, ewch i:
http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2017/childcareofferwales/?lang=en
http://gov.wales/docs/dsjlg/publications/cyp/170609-providers-faq-en.pdf
neu cysylltwch gyda’ch sefydliad ymbarél:
Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs:
Mudiad Meithrin:
post@meithrin.cymru
Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA Cymru):
Cymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar Cymru (PACEY Cymru):
Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru (Wales PPA):