Hiliaeth a gofal plant 

(21.10.2020)

Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin

Sut y gwelir hiliaeth fel cysyniad ym maes gofal plant? A yw’n gysyniad o gwbl neu a gaiff ei ystyried yn rhywbeth nad yw’n digwydd yma? Mae llunwyr polisi Iechyd Cyhoeddus – wrth i mi deipio hyn – yn trafod effaith hiliaeth ar iechyd.  Dadleua’r arbenigwr ar Iechyd Cyhoeddus, Yr Athro Kevin Fenton, y “dylem ystyried hiliaeth yn un o benderfynyddion sylfaenol iechyd. Y mae’n dylanwadu ar sawl mecanwaith, polisi ac arfer sydd yn y pen draw yn effeithio ar iechyd”.  A ellir dweud yr un fath am ofal plant? Os ydym i ddadlau bod darparu gofal plant a reoleiddir, ac sydd o ansawdd, yn gwneud gwahaniaeth gweladwy i fywydau plant, yna ymddengys yn amhosibl dadlau i’r gwrthwyneb.  Os rheolir agweddau yn y maes gofal plant gan syniadau ystrydebol hiliol a stereoteipiau ynghylch sut y mae plant o gefndiroedd ethnig amrywiol neu ddiwylliannau penodol yn ymddwyn, neu os anwybyddir hil ac ethnigrwydd hyd yn oed gan ymarferwyr sy’n (honedig) ddall i liw, yna mae angen i ni newid mewn ffordd radical y ffordd y gweithredwn.  Sut gall ymarferwyr gofal plant wneud gwir newid o ran herio hiliaeth, a sut allant roi arferion da ar waith yn eu lleoliadau?

  1. Gwybod am y deunydd darllen. Mae cydweithwyr yn ‘Blynyddoedd Cynnar Cymru / Early Years Wales’ wedi llunio stôr defnyddiol o lyfrau ac erthyglau sy’n archwilio hil, ethnigrwydd a diwylliant yn y gymdeithas gyfoes ac ym maes gofal plant (cliciwch yma).  Gwelwch hefyd yr erthygl ddefnyddiol hon gan  PACEY Cymru: : https://www.pacey.org.uk/working-in-childcare/spotlight-on/promoting-positive-diversity/
  2. Craffwch ar eich polisïau. Gofynnwch i’r arbenigwyr. Bu Mudiad Meithrin yn gweithio ochr yn ochr â ‘Cyngor Hil Cymru / Race Council Cymru’ yn ddiweddar er mwyn asesu ei bolisïau o ran hyrwyddo arferion gwrth-hiliol.
  3. Dathlwch wahaniaeth. Mae edau sylfaenol ein natur ddynol yn ein huno oll, pwy bynnag yr ydym, ond gallwn hefyd ddathlu ein gwahaniaethau i ddangos ein bod yn ofalgar ac yn werthfawrogol o’n priod hunaniaethau. Yn ymarferol, golyga hyn wneud ymdrech i ddathlu Diwali, Eid, Rosh Hashanah, Carnifal, Blwyddyn Newydd Tsieneaidd yn ogystal â Dydd Gŵyl Dewi a’r Nadolig neu’r Pasg. Mae amryfal adnoddau ymarferol ar gael i ysbrydoli ymarferwyr.
  4. Ymgysylltwch â dadleuon a gwrandewch ar rai sy’n byw’r profiad. Yn aml gall fod yn anodd i bobl wyn (y mwyafrif o ymarferwyr gofal plant yng Nghymru) i ddeall effaith wanychol hiliaeth bob-dydd a meicro-ymosodiadau. Ond fel y dywed Audre Lorde: “Does dim rhaid i chi fod yn fi er mwyn i ni allu brwydro ochr yn ochr â’n gilydd”. Mae’r sesiwn wythnosol ‘Privilege Cafe’ a lywyddir gan Mymuna Suleyman yn fan diogel, defnyddiol ac addysgol i gynnal dadl.
  5. Heriwch gellwair. Mae’n bosibl mai’r arfer gwael anoddaf i’w wrthsefyll yw cellwair neu jôcs bob-dydd sy’n ymddangos yn ddiddrwg-ddidda. Ni fydd rhai pobl efallai’n ystyried hyn yn hiliol o gwbl.  Addysgwch eraill o’ch cwmpas y gall geiriau frifo ac nad oes unrhyw le i stereoteipiau hiliol ym maes gofal plant.

Efallai y bydd rhai’n darllen y blog yma ac yn dadlau bod plant sy’n derbyn gofal plant (yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar) naill ai’n rhy ifanc i brofi hiliaeth neu’n analluog i werthfawrogi cymhlethdodau’r ddadl gynnil ynghylch hil, lliw a hunaniaeth. Ond mae tystiolaeth pobl liw o fyw’r profiad trwy fudiad ‘Black Lives Matter’ yn dweud stori wahanol. Mae’r pwys yr ydym ni fel sector yn ei roi ar ddarparu gofal plant o ansawdd, wedi ei reoleiddio, yn dweud bod profiad sylweddol a’r modelu rolau o du oedolion yn bwysig. Fel arall, beth ydym ni’n ei ddweud?

Dylem haeru â balchder fod ‘Bywydau Du o Bwys’ a bod ‘Plant Du o Bwys’.

Racism and childcare

(21.10.2020)

Dr Gwenllian Lansdown Davies, Chief Executive Mudiad Meithrin

How is racism conceptualised within childcare? Is it conceptualised at all or is it considered as something that does not happen here? Public Health policymakers are – as I type – discussing the impact that racism has on health. Public Health expert Prof. Kevin Fenton argues that “we should view racism as a fundamental determinant of health. It influences multiple mechanisms, policies and practices that ultimately affect health”. Can the same be said of childcare? If we are to argue that the provision of regulated, quality childcare makes a tangible difference to children’s lives, then it would seem impossible to argue otherwise. If attitudes within childcare are determined by racist tropes and essentialist stereotypes about how children from certain ethnicities or cultures behave or race and ethnicity are simply ignored by (allegedly) colour-blind practitioners, then we need to radically change the way we operate. How can childcare practitioners make real change as far as challenging racism is concerned and how can they implement good practice in their settings?

  1. Know the literature. Colleagues in ‘Blynyddoedd Cynnar Cymru / Early Years Wales’ have compiled a useful depository of books and articles which explore race, ethnicity and culture in contemporary society and childcare (click here). Also, see this useful article by PACEY Cymru: https://www.pacey.org.uk/working-in-childcare/spotlight-on/promoting-positive-diversity/
  2. Scrutinise your policies. Ask the experts. Mudiad Meithrin have recently worked alongside ‘Cyngor Hil Cymru / Race Council Cymru’ to assess its policies as far as championing anti-racist practice is concerned.
  3. Celebrate difference. The underlying common thread of humanity unites us all regardless of who we are, but we can also celebrate our differences to show that we care and appreciate our respective identities. In real terms, this means making the effort to celebrate Diwali, Eid, Rosh Hashanah, Carnival, the Chinese New Year as well as Dydd Gŵyl Dewi (Saint David’s Day) and Christmas or Easter. There are various practical resources available to inspire practitioners.
  4. Engage in debate and listen to lived experience. It can often be difficult for white people (most childcare practitioners in Wales) to understand the debilitating impact of everyday racism and micro aggressions. But as Audre Lorde says: “You do not have to be me in order for us to fight alongside each other”. The weekly ‘Privilege Cafe’ session hosted by Mymuna Suleyman is a safe, useful, educational space for debate.
  5. Challenge banter. Potentially the most difficult bad practice to counter is seemingly banal, everyday banter or jokes. Some people might not even consider this to be racist at all. Educate others around you that words can be hurtful and that racist stereotypes have no place in childcare.

Some might read this blog and argue that children in childcare (especially in the early years) are either too young to experience racism or that they cannot appreciate the complexities of nuanced debate around race, colour, and identity. But the lived experience testified by people of colour via the ‘Black Lives Matter’ movement tells us a different story. The emphasis we as a sector place on the provision of quality, regulated childcare means that the substantive experience and role modelling by adults matter. Otherwise, what are we saying?

We should proudly assert that ‘Black Lives Matter’ and that ‘Black Children Matter’ too.